Amdanom ni

Mae Gwobrau Gofal Cymru’n ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei redeg gan Fforwm Gofal Cymru i arddangos ymarfer gorau ledled y sector gofal.

Bydd Gwobrau Gofal Cymru 2024, y 21eg seremoni flynyddol, yn cael ei chynnal ddydd Gwener 18 Hydref yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

  

Gall unrhyw un sydd â rhan yn y diwydiant gofal enwebu unigolyn neu dîm am wobr.  Felly, os hoffech chi enwebu nyrs ardderchog, os ydych chi’n meddwl fod eich tîm arlwyo’n arwyr cudd neu os oes gennych chi reolwr sy’n haeddu cydnabyddiaeth am waith caled, dyma eich cyfle.

Mae croeso i bawb yn y seremoni wobrwyo. Bydd tocynnau ar werth ym mis Mai 2024.

Bydd y Gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn tri chategori – aur, arian ac efydd – ac maen nhw’n rhan bwysig o godi proffil gweithwyr gofal ac o addysgu’r cyhoedd am y gwaith hanfodol rydym ni’n ei wneud.

Mae dod i’r seremoni hefyd yn gyfle i gymdeithasu gyda staff eraill yn y sector gofal, i gymharu ymarfer gorau ac, wrth gwrs, i gael tipyn o hwyl haeddiannol iawn.  Felly, dewch i fwynhau’r noson – dyma eich cyfle i ddisgleirio.

Yn y llun uchod – o’r chwith i’r dde: Lesley Griffiths AC, Mike Parsons, sylfaenydd Barchester Healthcare; Mario Kreft MBE, Cadeirydd, Gwobrau Gofal Cymru ac enillydd Gwobrau Urddas Mewn Gofal 2014.