Mae Fforwm Gofal Cymru’n cynrychioli 450+ o gartrefi gofal, cartrefi nyrsio a darparwyr gofal iechyd cymdeithasol annibynnol eraill ledled Cymru.
Mae Fforwm Gofal Cymru’n cefnogi aelodau i ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd da ac urddas i bawb, maen nhw’n rhannu ymarfer gorau ac adnoddau, yn gweithio i ddylanwadu ar ffurfwyr polisi, yn hyrwyddo Urddas Mewn Gofal, yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar ddeddfwriaeth ac yn darparu hyfforddiant i’n haelodau.