Mae Noddwyr a Phartneriaid yn chwarae rhan ganolog yng Ngwobrau Gofal Cymru. Hebddoch chi, ni fyddai modd cynnal y digwyddiad unigryw hwn.
Mae Fforwm Gofal Cymru’n cyrraedd ei aelodau a chynulleidfa ehangach ledled y sector gofal yn rheolaidd drwy’r flwyddyn. Mae yna sawl cyfle i ddod yn bartner ar gael i gyflenwyr yn y sector gofal ac i randdeiliaid y diwydiant a fydd yn sicrhau y bydd eu llais yn cael ei glywed.
Drwy gefnogi Gwobrau Gofal Cymru byddwch hefyd yn elwa o gyfle unigryw ac effeithiol i hyrwyddo eich sefydliad:
- Gwella eich brand drwy ei gysylltu â gofal yn y gymuned
- Cyrraedd cynulleidfaoedd rhanbarthol a chenedlaethol drwy ymgyrch bellgyrhaeddol y Gwobrau yn y cyfryngau
- Cyrraedd 80,000 o weithwyr yn y sector gofal ym mhob rhan o Gymru
- Gosod eich cwmni wrth galon y gymuned gofal – cael eich gweld yn cefnogi’r sector
- Gwneud argraff barhaol ar gleientiaid a staff yng nghinio Gwobrau Gofal Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd
I ganfod rhagor, cysylltwch â davina@sbarc.net neu ffoniwch 01248 717 903